Cefnogaeth i fyfyrwyr Punjabi

Grŵp cefnogi ar-lein i fyfyrwyr Punjabi.

Cymerwch ran mewn gofod a gweithdai gyda myfyrwyr Punjabi eraill, dan arweiniad hwylusydd profiadol, am gefnogaeth, trafodaeth a strategaethau ar y cyd i gefnogi eich lles.

Rydym yn cynnig y gefnogaeth ganlynol i fyfyrwyr Punjabi:

  • Gofod trafod cyffredinol i bob myfyriwr Punjabi
  • Gofod trafod arbenigol i fyfyrwyr LGBTQ+
  • Gweithdai i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth am bynciau penodol.

Mae’n cael ei gyflwyno gan Taraki, sefydliad sy'n gweithio gyda chymunedau Punjabi i ail-lunio dulliau o ymdrin ag iechyd meddwl drwy ymwybyddiaeth, addysg, cefnogaeth gymdeithasol ac ymchwil.

Beth sy'n digwydd yn y gofod trafod?

Mae'r gofod cefnogi yma wedi'i gynllunio i fod yn ddiogel yn ddiwylliannol - i adnabod a chanoli cymunedau a phrofiadau Punjabi a hefyd eich gwerthfawrogi chi fel unigolyn. Bydd pob sesiwn trafod yn cael ei arwain gan hwylusydd profiadol sy’n uniaethu fel Punjabi.

Bydd tua 6 i 10 o fyfyrwyr yn cymryd rhan ym mhob sesiwn. Bydd pob sesiwn yn rhoi sylw i bwnc unigryw, ond gall y sesiynau gynnwys trafodaeth grŵp a hwylusir a gweithgareddau grŵp dan arweiniad.

Bydd yr hwylusydd yn creu gofod i chi a'r cyfranogwyr eraill drafod eich lles, rhannu'r heriau rydych chi'n eu hwynebu, a chefnogi eich gilydd gyda strategaethau ac adnoddau i helpu i wynebu'r heriau hynny.

Mae'r sesiwn yn ofod cyfrinachol lle gall pobl siarad heb ofni barn a stigma.

Beth sy'n digwydd yn y gweithdai?

Nod y gweithdai ar-lein, rhyngweithiol yw helpu myfyrwyr sy’n uniaethu fel myfyrwyr Punjabi i ddatblygu adnoddau hunangefnogi a dysgu ar yr un pryd am les mewn ffordd ddiogel yn ddiwylliannol.

Nod y gweithdai yw eich cefnogi chi i gynyddu hunanymwybyddiaeth, a meithrin hunangysur a hunanofal.

Bydd pob gweithdy yn canolbwyntio ar bwnc penodol, fel perthnasoedd, a byddant yn cael eu harwain gan hwylusydd profiadol a gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol sy’n uniaethu fel Punjabi.

Sut i gofrestru

Gallwch gofrestru ar gyfer y sesiynau hyn ar dudalen Eventbrite Taraki.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, anfonir sawl nodyn atgoffa a dolen Zoom atoch chi, a fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer y drafodaeth.

Os yw'r sesiwn yn llawn, byddwch yn cael eich rhoi ar restr aros a byddwch yn cael eich ychwanegu'n awtomatig os bydd eraill yn dewis peidio mynychu.