Pum cam at arferion digidol iach

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Mae'r rhan fwyaf ohonom bellach yn treulio llawer o amser ar-lein ac yn edrych ar sgriniau. Mae'n bwysig meddwl sut rydym yn defnyddio'r amser hwnnw, a'r effaith bosibl ar ein llesiant.

Nid yw bod ar-lein o reidrwydd yn ddrwg i chi – mewn gwirionedd gall gael effaith gadarnhaol ar eich llesiant. Bydd y modd rydych yn ymgysylltu â bod ar-lein ac ar gyfer beth y byddwch yn ei ddefnyddio, yn diffinio p’un a yw'n hybu neu'n niweidio'ch llesiant.

Gall y byd ar-lein ein helpu i deimlo mwy o gysylltiad ag eraill, yn fwy cynhyrchiol ac i deimlo ein bod yn ymgysylltu mwy. Gall hefyd roi adloniant, ysgogiad deallusol a hwyl i ni.

Ond gall bod ar-lein hefyd wneud i ni deimlo wedi'n datgysylltu, yn flinedig neu'n bigog. Gall fod yn fodd i ni ohirio gwneud pethau a gwylio'r amser yn mynd heibio. Gallai hyn olygu ein bod ni'n teimlo'n swrth ac yn flinedig, a gall gyfrannu at gyfnodau lle mae gorbryder a hwyliau isel yn cynyddu. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod sgriniau’n ein cadw ni rhag gwneud gweithgareddau eraill sy’n dda i’n llesiant, fel treulio amser ym myd natur, ymarfer corff a chysgu.

Yr allwedd yw ceisio dod o hyd i gymaint o gydbwysedd â phosibl rhwng amser yn edrych ar ac oddi ar sgriniau a bod yn ymwybodol o sut rydych chi'n treulio'ch amser. Mae hyn yn golygu rheoli ymyriadau a defnyddio amser yn edrych ar sgrin mewn modd gadarnhaol i wneud pethau sy'n ddefnyddiol. Darllenwch ymhellach am ein pum cam i adeiladu arferion digidol iachach.

Pum cam at arferion digidol iach

1. Cymerwch seibiannau

Mae'n ymddangos yn beth amlwg, ond gall amser i ffwrdd o edrych ar sgrin eich helpu i ailffocysu a rhoi hwb i'ch egni. Gall fod yn demtasiwn defnyddio eich seibiannau i lithro o un gweithgaredd ar y sgrin (gweithio) i un arall (Netflix neu gyfryngau cymdeithasol). Ceisiwch fod yn ymwybodol o'r ysgogiad hwn a gwnewch benderfyniadau gweithredol, gan gymysgu'ch amser yn edrych ar y sgrin ag amser i ffwrdd o sgriniau.

2. Diffoddwch bethau sy'n ymyrryd arnoch

Mae gweld neu glywed eich hysbysiadau yn lleihau eich gallu i ganolbwyntio. Rhowch gyfle i chi'ch hun ganolbwyntio ar y dasg dan sylw trwy ddiffodd hysbysiadau ac allgofnodi o gyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn eich helpu i weithio'n well a byddwch yn cael mwy o foddhad a phleser.

3. Diffoddwch bob sgrin awr cyn amser gwely

Mae pob sgrin yn allyrru golau a all amharu ar eich cwsg. Cymerwch egwyl o edrych ar y sgrin cyn mynd i'r gwely a diffoddwch eich ffôn, fel na fyddwch yn cael eich deffro gan negeseuon. Rhowch wybod i'ch ffrindiau mai dyma beth rydych chi'n ei wneud, felly ni fyddant yn synnu pan na fyddant yn cael ateb tan y bore.

4. Byddwch yn ystyriol

Byddwch yn ymwybodol faint o amser rydych yn ei dreulio yn edrych ar y sgrin a sut rydych chi'n treulio'r amser hwnnw. Er mwyn eich helpu i gymryd rheolaeth, efallai y byddwch am ddefnyddio apiau sy'n eich helpu i weld yr amser pan rydych chi'n defnyddio'r sgrin.

5. Monitro effaith gweithgareddau ar eich hwyliau

Mae ymchwil yn dangos bod y rhai sy'n treulio llawer o amser yn ymgysylltu â newyddion ar-lein yn gweld eu llesiant yn gostwng i raddau mwy. Rhowch sylw i sut rydych chi'n teimlo pan fyddwch chi'n ymgysylltu â newyddion a chyfryngau cymdeithasol. Os bydd rhai gweithgareddau'n golygu bod eich hwyliau'n dirywio, ceisiwch wneud llai ohonynt a gwneud gweithgareddau eraill sy'n helpu i godi'ch hwyliau.

Adolygwyd ddiwethaf: Hydref 2022