Ynglŷn â Student Space

Mae Student Space yma i'w gwneud hi'n haws i chi ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Sut bynnag rydych chi'n teimlo, mae help ac arweiniad ar gael. Edrychwch ar yr ystod o wybodaeth, gwasanaethau ac adnoddau y gellir ymddiried ynddynt i’ch helpu drwy ansicrwydd bywyd fel myfyriwr.

Mae Student Space yn gallu helpu mewn tair ffordd:

  1. Gwybodaeth a chyngor i'ch helpu drwy heriau bywyd fel myfyriwr

  2. Eich helpu i ddod o hyd i ba gymorth sydd ar gael yn eich prifysgol

  3. Mynediad i wasanaethau cymorth pwrpasol i fyfyrwyr

Mae'r gefnogaeth a ddarperir gan Student Space yn ddiogel, yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Fe’i datblygwyd drwy gydweithio â gwasanaethau, uwch-weithwyr addysg proffesiynol, ymchwilwyr a myfyrwyr i ategu’r gwasanaethau presennol sydd ar gael i fyfyrwyr.

Mae Student Space yn cael ei redeg gan Student Minds, elusen iechyd meddwl myfyrwyr y DU. Ariennir y rhaglen gan Office for Students a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae Student Space ar gael i bob myfyriwr addysg uwch ledled Cymru a Lloegr.

Mae Student Space yma i'ch cefnogi chi drwy ansicrwydd bywyd fel myfyriwr.

Yn cael ei redeg gan Student Minds

Mae Student Space yn cael ei redeg gan Student Minds, elusen iechyd meddwl myfyrwyr y DU. Rydym yn grymuso myfyrwyr ac aelodau o gymuned y brifysgol i ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain, cefnogi eraill a chreu newid.

Cyllid

Ariennir y rhaglen gan Office for Students a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae Student Space ar gael i bob myfyriwr addysg uwch ledled Cymru a Lloegr.